Asiantaeth Ffiniau
Mae grŵp o Aelodau Seneddol wedi beirniadu penodiad y pennaeth Cyllid a Thollau EM gan ddweud ei bod wedi gadael “llanastr” ar ei hôl pan oedd yn bennaeth yr Asiantaeth Ffiniau.

Dywedodd y pwyllgor dethol ar faterion cartref eu bod nhw wedi eu “synnu” bod Lin Homer wedi cael ei phenodi yn brif weithredwr Cyllid a Thollau EM, gan  ennill cyflog o £180,000 y flwyddyn, ar ôl ei pherfformiad yn ystod ei phum mlynedd gydag Asiantaeth Ffiniau’r DU.

Ond dywedodd Lin Homer ei fod yn “annheg” ei bod hi’n cael y bai am faterion a ddigwyddodd ar ôl iddi adael yr Asiantaeth Ffiniau.

Daeth sylwadau’r pwyllgor wrth iddyn nhw rybuddio y byddai’n cymryd 24 mlynedd i fynd i’r afael a’r achosion sy’n cael eu hystyried gan yr Asiantaeth Ffiniau gan fewnfudwyr a rhai sy’n ceisio am loches.