Frank Thornton
Mae’r actor Frank Thornton, oedd yn chwarae rhan Captain Peacock yn y gyfres gomedi ‘Are You Being Served?’ wedi marw.

Bu farw’r actor 92 oed yn ei gwsg yn oriau mân fore dydd Sadwrn.

Roedd Frank Thornton hefyd yn adnabyddus am ei rôl yn chwarare Truly yn ‘Last of The Summer Wine’.

Dywedodd ei asiant, David Daly: “Bu farw Frank Thornton yn dawel yn ei gwsg ddydd Sadwrn.

“Roedd Frank yn actor hoffus wnaeth chwarae cymeriadau comedi yn bennaf ac mae’n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Capten Peacock yn ‘Are You Being Served?’ ac yn fwy diweddar fel Truly yn ‘Last Of The Summer Wine’.

“Rwyf wedi bod yn asiant i Frank ers 1986 ac mae wedi bod yn gleient bendigedig yn ogystal â bod yn gyfaill mawr. Bydd colled enfawr ar ei ôl.”