Prifysgol Glasgow
Mae Prifysgol Glasgow wedi lansio cynllun iaith Gaeleg, i geisio cynnwys yr iaith yng ngwaith y brifysgol, a sicrhau ei dyfodol yn yr Alban.

Am y tro cyntaf yn hanes Prifysgol Glasgow, cafodd polisi ei gyhoeddi sy’n dangos ymrwymiad y brifysgol i gefnogi’r iaith a diwylliant, drwy gynnwys yr iaith yn ei gweithgareddau o ddydd i ddydd.

Mae’r brifysgol yn gobeithio y bydd y cynllun yn helpu i hybu defnydd ac ymwybyddiaeth am yr iaith yn y brifysgol, a thu hwnt yn y gymuned eang, drwy ddatblygu defnydd Gaeleg mewn nifer o adrannau yn cynnwys cyfathrebu a chyhoeddiadau cyhoeddus, ac ymhlith staff.

Sicrhau dyfodol yr iaith

Mae rheolwyr yn awyddus i greu hunaniaeth i’r iaith yn y brifysgol, a sicrhau bod yr iaith yn rhan o brofiad myfyrwyr sy’n astudio yng Nglasgow.

Mae’r cynllun yn cael ei weithredu mewn partneriaeth hefo Bord na Gaidhlig, yr asiantaeth sy’n gyfrifol am ddatblygu Gaeleg a gwelededd ohono.

Dywedodd pennaeth y brifysgol, yr Athro Anton Muscatelli, bod y polisi newydd yn rhan o gynllun i sicrhau Gaeleg fel iaith swyddogol yr Alban:

“Mae Gaeleg yn rhan bwysig o ddiwylliant a hanes yr Alban, ac rydyn ni’n hynod o falch bod yr Iaith wedi ei dysgu yma ers dros ganrif.  Wrth i ddiddordeb yn yr iaith dyfu dros yr Alban ac yn enwedig Glasgow, rydyn ni’n teimlo mai dyma’r amser gorau i lansio ein cynllun iaith i’r brifysgol.  Y gobaith yw sicrhau statws Gaeleg fel iaith swyddogol yr Alban,” meddai.