Mae’r Aelod Seneddol, Eric Pickles wedi dweud na ddylai cynghorau gyfieithu dogfennau i ieithoedd tramor.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau a Llywodraeth Leol fod costau cyfieithu’n rhy uchel, ac mae cyfieithu dogfennau’n tanseilio ymdrechion Llywodraeth Prydain i annog mewnfudwyr i ddysgu Saesneg.

Ond fe ddywedodd y gellid cyfieithu dogfennau mewn argyfwng.

Mewn datganiad gerbron San Steffan, dywedodd: “Mae gan y fath wasanaethau cyfieithu effaith andwyol anfwriadol ar integreiddio drwy leihau’r ysgogiad i rai cymunedau o fewnfudwyr i ddysgu Saesneg ac maen nhw’n wastraffus lle mae nifer o aelodau yn y cymunedau hyn eisoes yn siarad neu’n deall Saesneg.

“Hyd yn oed pe bai cyhoeddi yn Saesneg yn unig yn gallu bod yn anfantais i rai pobol, gellid cyfiawnhau’r fath bolisi pe bai awdurdodau lleol yn gallu dangos bod pryderon am integreiddio a chostau yn dilyn nod benodol ac yn gorbwyso unrhyw anfantais.”

‘Arbed £20m’

Dywedodd y gellid defnyddio Saesneg syml yn yr achosion hynny lle mae lefelau gallu ieithyddol yn isel iawn.

Ychwanegodd fod ymchwil annibynnol yn dangos y gallai atal cyfieithu diangen arbed hyd at £20 miliwn y flwyddyn.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas Llywodraeth Leol fod gwasanaethau cyfieithu’n cael eu defnyddio’n synhwyrol a dim ond lle mae tystiolaeth gref fod eu hangen.