Shirley Bassey
Fe gafodd Cymraes ei lle yn yr haul yn ystod seremoni’r Oscars neithiwr, wrth i Shirley Bassey gael y dorf ar ei thraed ar ôl canu Goldfinger o ffilm James Bond bron hanner canrif yn ôl.

Ac roedd yna fymryn o elfen Gymreig gydag un o’r prif enillwyr, wrth i Daniel Day-Lewis ennill Oscar y prif actor am ei bortread o Arlywydd America, Abraham Lincoln, a oedd o dras Gymreig.

Dyma’r trydydd tro i Daniel Day-Lewis ennill y brif wobr, y tro cynta’ i neb wneud hynny. Mae’r fuddugoliaeth yn ei osod ar y blaen i enwogion fel Dustin Hoffman a Marlon Brando.

Adele yn ennill

Roedd yna reswm tros berfformiad Shirley Bassey, gan mai un arall o ganeuon James Bond, Skyfall, a enillodd Oscar y gân orau i’r gantores Adele.

Argo oedd enillydd Oscar y ffilm orau er nad oedd ei chyfarwyddwr, Ben Affleck, hyd yn oed wedi ei enwebu yng nghategori’r cyfarwyddwr gorau.

Ang Li a enillodd y wobr honno am Life of Pi, un o bedwar Oscar i’r ffilm am fachgen a theigr ar gwch.

  • Jennifer Lawrence oedd yr actores orau ac Anne Hathaway yr actores gynorthwyol orau.
  • Roedd yna Oscar i Quentin Tarantino am sgript ei ffilm Django Unchained.
  • Fe anfonodd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, llongyfarchiadau i griw’r ffilm animeiddio fuddugol, Brave, a oedd wedi ei gwneud  yn yr Alban.