Bydd meddygon tramor yn gorfod profi eu bod nhw’n gallu siarad Saesneg yn ddigon da i drin cleifion cyn y byddan nhw’n cael gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

Mae’r rheini sy’n dod i Brydain o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd eisoes yn wynebu profion iaith, ond nid yw hyn wedi bod yn wir am feddygon o fewn yr Undeb Ewropeaidd hyd yma.

Roedd galwadau wedi bod am dynhau’r rheolau ar ôl cwynion bod anallu medddygon i siarad yr iaith yn effeithio ar eu gallu i drin cleifion, gan arwain mewn o leiaf un achos at farwolaeth claf.

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu rhoi pwerau newydd i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol i rwystro meddygon rhag cael trwydded i weithio lle mae pryderon ynghylch eu gallu i siarad Saesneg.

“Dylai cleifion fod yn gallu deall eu meddygon – ac yntau’n eu deall nhw – os ydyn nhw am gael y gofal maen nhw’n ei haeddu,” meddai Dr Dan Poulter, Gweinidog Iechyd Lloegr.