Vicky Pryce - achos newydd ddydd Llun
Mae rheithgor yr achos yn erbyn cyn-wraig yr Aelod Seneddol Chris Huhne wedi eu gollwng heddiw, wedi iddyn nhw fethu â dod i benderfyniad.

Roedd Vicky Pryce, 60 wedi ei chyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder ar ôl iddi dderbyn pwyntiau cosb am yrru’n gyflym ar ran ei chyn-ŵr, yn 2003.

Mae’r ddau bellach wedi gwahanu, ac mae Vivky Pryce yn gwadu’r cyhuddiad, gan honni bod Chris Huhne wedi ei gorfodi i gymryd y pwyntiau cosb.

Gollwng y rheithgor

Cafodd y pedwar dyn a’r wyth ddynes ar y rheithgor eu rhyddhau o Llys y Goron yn Southwark, Llundain, wedi iddyn nhw fethu â dod i ganlyniad ar yr achos.

Bydd achos newydd nawr yn cael ei gynnal, yn dechrau ddydd Llun.

Dywedodd y barnwr, Mr Ustus Sweeney wrth y rheithgor:

“Gan eich bod wedi bod yn trafod y penderfyniad ers cryn amser yn barod, rydw i wedi penderfynu y bydd rhaid eich rhyddhau o unrhyw drafodaeth pellach.  Mae eich rhan yn yr achos yma nawr ar ben.”

Mae Chris Huhne, cyn aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol, wedi pleidio’n euog i’r cyhuddiadau yn ei erbyn, ond ni fydd yn cael ei ddedfrydu nes bod yr achos newydd ar ben.