Mae arwerthiant gwasanaeth wê 4G rhwng cwmnïau ffôn symudol, wedi codi £2.3 biliwn o elw i’r trysorlys.

Yn yr ocsiwn, roedd y cwmnïau yn bidio am drwyddedau i gynnal gwasanaeth wê 4G i’w cwsmeriaid, a fydd yn cynnig cyswllt i’r wê ar eu ffonau cystal â chysylltiad band llydan mewn cartrefi.

Llwyddodd prif gwmnïau ffon Prydain i gael trwyddedau, gyda Vodafone yn talu’r swm fwyaf o £790.8 miliwn.  Roedd EE, Telefonica a Hutchinson 3G hefyd yn llwyddiannus.

Canghellor siomedig

Ond, mae’r elw o £2.3 biliwn yn swm siomedig i’r canghellor, George Osborne, gan fod gobaith y byddai dros £3.5 biliwn yn dod o’r arwerthiant.  

Roedd llai o gystadleuaeth am drwyddedau hefyd yn golygu bod elw llawer llai na grëwyd gan yr arwerthiant ar gyfer gwasanaethau 3G yn 2000. Llwyddodd yr arwerthiant yn 2000 greu £22.5 biliwn i’r llywodraeth.

Bydd y gwasanaethau newydd ar gael yn hwyrach yn 2013, ac yn cynnig cysylltiad i’r wê sydd hyd at 7 gwaith cyflymach na chyswllt 3G. 

Bydd hyn yn galluogi i ddefnyddwyr wylio rhaglenni byw ar eu ffonau, trawslwytho ffeiliau mawr yn gynt a llwytho fideos o’r wê.

Dylai’r gwasanaeth newydd gynnig cyswllt 4G ar ffonau symudol i 95% o boblogaeth y DU erbyn 2017.