Mae aelodau o gwmni cyfreithwyr yn wynebu cyfnod yn y carchar am eu rhan mewn  priodas ffug gwerth £20m.

Mae’r cyfreithiwr, Tevfick Souleiman, 39, ynghyd ag ymgynghorwyr mewnfudo Cenk Guclu, 41, a Furrah Kosimov, 29, wedi cael eu dyfarnu’n euog o gynllwynio i dorri cyfraith mewnfudo.

Roedd Souleiman, o Hatfield, swydd Hertford, a Guclu, o Enfield, yn euog o dderbyn enillion yn deillio o drosedd hefyd.

Mae Souleiman a Guclu wedi’u cadw yn y ddalfa er mwyn eu dedfrydu gyda Furrah Kosimov ddydd Llun nesa’.