Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn marwolaeth dynes mewn ysbyty yn Iwerddon ar ôl i feddygon wrthod rhoi erthyliad iddi.

Roedd Savita Halappanavar, deintydd 31 oed, yn feichiog ers 17 wythnos pan fu farw ar ôl colli’r babi a dioddef o wenwyn gwaed.

Dywedodd ei gwr, Praveen Halappanavar, 34, ei bod mewn poen ddifrifol pan oedd yn Ysbyty’r Brifysgol Galway. Ond dywedodd bod meddygon wedi gwrthod caniatáu erthyliad oherwydd bod curiad calon y ffetws yn bresennol.

Er gwaethaf sawl cais gan ei wraig am erthyliad, mae Praveen Halappanavar yn honni bod meddygon wedi dweud wrthyn nhw: “Mae hon yn wlad Gatholig.”

Mae marwolaeth Savita Halappanavar yn debyg o arwain at feirniadaeth o Lywodraeth Iwerddon am fethu a diwygio deddfau iechyd er mwyn caniatáu erthyliad os yw bywyd y fam mewn perygl.

Bu farw Savita Halappanavar ar ôl dioddef o wenwyn gwaed ar 28 Hydref. Credir ei bod yn dod o India’n wreiddiol ond wedi bod yn byw yn Iwerddon.

Mae disgwyl protest o flaen senedd y wlad heno.

Mae ymchwiliad i’w marwolaeth yn cael ei gynnal gan swyddogion iechyd.