Fe fydd bron i 50,000 o bobl sydd wedi cael clun metel-ar-fetel newydd yn gorfod cael profion blynyddol yn dilyn pryderon y gallen  nhw achosi problemau iechyd difrifol.

Mae canllawiau newydd wedi eu cyhoeddi ynglŷn â’r mewnblaniadau sydd wedi cael eu cysylltu â phroblemau gyda’r cyhyrau a’r esgyrn, a phroblemau niwrolegol.

Mae’n debyg bod darnau o fetel yn torri’n rhydd o’r mewnblaniadau ac yn llifo i’r gwaed.

Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi cyflwyno rhybudd newydd i’r GIG heddiw gan ddweud bod na “risg fechan” y gall achosi anawsterau mewn cleifion.

Fe fydd oddeutu 49,000 o bobl yn y DU sydd wedi cael clun  newydd sydd â diamedr o 36mm neu fwy yn gorfod cael profion gwaed blynyddol i fesur lefelau ionau’r gwaed ac fe fydd rhai sydd â symtomau hefyd yn gorfod cael sgan MRI  bob blwyddyn.

Mae ymchwiliad gan y British Medical Journal (BMJ) a Newsnight, sy’n cael ei darlledu heno, yn beriniadu MHRA, gan ddweud bod pryderon am y mewnblaniadau wedi dod i’r amlwg yn 2006.