Gallai mwy o ddioddefwyr o ganser y coluddyn gael eu hachub petai’r Gwasanaeth Iechyd yn darparu mwy o ymgynghorwyr mewn achosion brys a phetai’r canser yn cael ei ddarganfod ynghynt, yn ôl arbenigwyr.

Dywedodd llywydd  Coleg Llawfeddygon Brenhinol heddiw fod gormod o gleifion yn marw yn ystod llawdriniaethau brys ar gyfer y canser.

Daw’r ymateb wedi i ystadegau gael eu cyhoeddi sy’n dangos fod 11.2% o gleifion sy’n derbyn triniaeth frys ar gyfer canser y coluddyn yn marw.

Mae canser y coluddyn yn aml wedi datblygu’n hir cyn cael ei ddarganfod, ac fel arfer dim ond wedi i’r tiwmor achosi gwaedu mawr neu rwystr y mae’n dod i’r amlwg.

Mae’r adroddiad yn cynnwys data gan 100 o ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd, ac mae’n cynnwys mwy na 28,000 o achosion o ganser y coluddyn.

Yn ôl yr ystadegau, bu’n rhaid cymryd rhyw fath o gam llawdriniaethol mewn 75% o achosion, a bu’n rhaid tynnu rhan o’r coluddyn, neu’r coluddyn cyfan, mewn 60% o achosion.

Ond mae’r adroddiad yn dangos fod oedi cyn gwneud diagnosis yn cael effaith sylweddol ar nifer y llawdriniaethau.

Dywedodd yr Athro Norman Williams, Llywydd y Coleg Llawfeddygon, fod adroddiad ganddyn nhw fis diwethaf wedi edrych ar fethiannau’r Gwasanaeth Iechyd wrth ddelio â chleifion argyfwng, gan gynnwys y rheiny â chanser y coluddyn.

“Gallai’r Gwasanaeth Iechyd fod yn gwneud llawer mwy i sicrhau bod cleifion sal iawn yn cael eu hanfon at lawfeddygon ymgynghorol yn gynharach wedi iddyn nhw gyrraedd yr ysbyty,” meddai.

Ond mae peth newyddion da yn yr adroddiad – mae nifer y cleifion sy’n marw o fewn 30 diwrnod i’r llawdriniaeth wedi gostwng – i 2.4% yn y 12 mis i Orffennaf 2010, o’i gymharu a 2.6% yn y flwyddyn flaenorol.