Mae ymgymerwr angladdau 22 oed o Gwm Tawe wedi bod yn beicio bob dydd er mwyn codi arian i Ysbyty Gymunedol Ystradgynlais.

Hyd yn hyn mae Steffan Castle wedi codi £1,810 trwy feicio 517 milltir dros 25 diwrnod a’r wythnos hon bu yn cyflwyno siec i’w ysbyty lleol.

Bydd rhaglen ddogfen newydd gan S4C, Galar yn y Cwm, yn dilyn cwmni teulu Steffan Castle yn ystod pandemig y coronafeirws.

Sefydlodd Roger Castle y cwmni Roger Castle and Daughter yn 2011 ac mae ei ŵyr, Steffan Castle yn 22 ac yn dilyn ôl traed ei daid.

Yn y rhaglen ddogfen, cawn wel sut y maen nhw’n edrych ar ôl y meirw a chefnogi’r teuluoedd sy’n galaru.

Bydd DRYCH: Galar yn y Cwm ar S4C nos Sul (Mehefin 7)