Gwyddonle: seicolegwyr yn rhoi’r ymennydd ar brawf

Diweddarwyd am  
Nel Huws (chwith) a Danielle Thomas (dde) y tu allan i'r Gwyddonle yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy

Nel Huws (chwith) a Danielle Thomas (dde) y tu allan i’r Gwyddonle yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy

Llun: Golwg360

SMae Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor yn rhoi prawf ymarferol i ymennydd eisteddfodwyr eleni.

Wrth gael pobol i wisgo prism-goggles, cyn herio nhw i daflu bagiau ffa i focs, maen nhw’n gweld pa mor gyflym a pha mor effeithlon mae’r ymennydd yn addasu.

“Pan ti’n gweld rhywbeth, mae ‘na neges yn cael ei yrru i dy ymennydd di, felly unwaith ti’n arfer gwneud rhywbeth mae dy ymennydd yn dod i arfer gyda’r weithred,” meddai Danielle Thomas, sydd newydd orffen ei hail flwyddyn yn astudio Seicoleg yn y Brifysgol.

“Beth mae’r prism goggles yn gwneud ydi newid beth wyt ti’n weld felly mae’n rhaid i dy ymennydd di ddod i arfer gyda hynny.”

Unwaith mae rhywun yn cael un o’r bagiau ffa yn y bocs, mae’r ymennydd yn dod i arfer a’i leoliad, meddai Danielle Thomas.

“Mae dy ymennydd wedyn yn newid beth mae o fod i wneud ac yn ail-strwythuro er mwyn dod i arfer gyda’r dasg.”

“Mae hwn mwy i wneud gyda seicoleg fiolegol a cognitive, ac yn ystyried pa nerfau sy’n mynd i mewn i’r ymennydd.”

Yn ôl Danielle Thomas, maen nhw’n gobeithio dangos i bobol fod astudio Seicoleg yn trafod nifer fawr o bethau.

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones