Mae ymchwil newydd yn dangos bod lonydd gwael a phroblemau parcio yn cael effaith estynedig ar iechyd meddwl gyrwyr faniau gwledydd Prydain.
Roedd yr ymchwil gan Mercedes-Benz Vans yn datgan fod 35% o yrwyr fan yn dweud eu bod yn profi straen yn eu gwaith, ynghyd a 14% yn dioddef iselder, a 21% o or-bryder.
Yn ôl 90% o yrwyr, mae parcio yn broblem fawr yng ngwledydd Prydain. Mae 55% yn dweud bod y mwyafrif o leoliadau parcio yn rhy fach a 27% yn honni nad oes digon o hyblygrwydd yn yr amser mae rhywun yn cael aros mewn bae parcio.
Mae lleoliadau dosbarthu nwyddau yn broblemus hefyd i 46% ac mae ardaloedd sy’n galw am drwydded parcio yn cynyddu straen i 33%.
Yn fuan bydd y llywodraeth yn ystyried cod ymarfer Bil Parcio newydd, a allai gyflwyno llu o newidiadau i’r ffordd y mae dirwyon parcio yn cael eu dosbarthu.