Fe fydd gêm elusennol yn cael ei chynnal yng nghlwb pêl-droed Port Talbot ddydd Sul (Ionawr 20) i anrhydeddu Lenny Johnrose, cyn-chwaraewr Abertawe.

Cafodd Lenny Johnrose wybod ym mis Mawrth 2017 fod afiechyd motor niwron arno.

Roedd yn aelod blaenllaw o dîm yr Elyrch a lwyddodd i aros yn y Gynghrair Bêl-droed yn 2003, gan sgorio wrth guro Hull o 4-2 ar ddiwrnod ola’r tymor.

Mae ymddiriedolaeth wedi’i sefydlu yn ei enw er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr.

Bydd y gêm ddydd Sul rhwng hoelion wyth Abertawe a thîm o westeion a fydd yn cynrychioli’r ymddiriedolaeth. Cafodd gêm debyg ei chynnal rhwng Abertawe a Burnley, un arall o’i glybiau, fis Tachwedd y llynedd.