Mae dyn o Borth Tywyn yn ceisio ymweld â phob gorsaf drenau danddaearol yn Llundain heddiw er mwyn codi arian i elusen.

Mae Carwyn Tywyn yn gobeithio teithio i bob un o’r 270 o orsafoedd y tiwb yn y ddinas fawr – taith o tua 19 awr.

Y nod yw codi arian i’r elusen y mae’n gweithio iddi, sef Mencap, sy’n rhoi cymorth i bobol sydd ag anableddau dysgu.

Ar dudalen y gronfa ar y wefan Just Giving, dywed Carwyn Tywyn fod y daith yn gwireddu un o’i “ddymuniadau bywyd”, ac yn cyd-deithio ag ef mae ei gyfaill, Simon Harburton o Hampshire.

“Diwrnod hir”

“Mae diwrnod hir o’n blaenau, bois,” meddai Carwyn Tywyn ar y wefan gymdeithasol, Facebook.

“Rydym yn barod i gychwyn am 4 y bore er mwyn ceisio ymweld â phob un o’r 270 o orsafoedd tanddaearol yn Llundain, ar y cyd a’m ffrind Twitter o Swydd Hampshire [Simon Harburton].

“Os yn llwyddiannus, bydd y daith yn cymryd tua 19 awr.”