Mae cerddor o Wynedd a aeth ar goll dros y penwythnos bellach wedi cael ei ddarganfod, yn ôl yr heddlu.

Cafodd pryderon eu mynegi brynhawn ddoe (dydd Sul, Medi 30) pan bostiodd Iwan Evans – o’r band Topper – neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud ei fod “angen help”.

Rai oriau wedi hynny, fe bostiodd ei gariad, Eluned Rhiannon, neges ar Facebook yn dweud: “Sa [rhywun] wedi gweld Iwan Evans o gwbwl plîs?”

Cafodd y neges honno ei rhannu 175 gwaith, ac fe fu sawl un yn postio sylwadau yn cynnig manylion, neu’n gofyn am y diweddara’ am y sefyllfa.

Roedd rhai’n awgrymu bod Iwan Evans wedi cael ei weld ym Mhenygroes ac yng Nghaernarfon, cyn j fatri ei ffôn symudol fynd yn fflat a chyn iddo yntau ddiflannu.

Bellach mae Eluned Rhiannon wedi postio neges yn dweud: “Heddlu wedi rhoi gwybod fod Iwan yn saff. Diolch, pawb.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau wrth golwg360 hefyd bod y cerddor yn ddiogel.