Fe gafwyd ychydig o newid i’r dosbarth aerobics dŵr wythnosol arferol ym mhwll nofio Bangor, pan ymddangosodd ‘Elvis’ i berfformio rhai o’i glasuron.

Mae’r Parchedig Wynne Roberts yn offeiriad yn esgobaeth Bangor yn ogystal â bod yn ddynwaredwr Elvis Presley, ac fe gytunodd i fod yn rhan o’r dosbarth i helpu i godi arian ar gyfer DementiaGo – y dosbarth gweithgarwch corfforol i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr.

Roedd dros 30 o ferched yn cymryd rhan yn y dosbarth pan ddaeth ‘Elvis’ i mewn, ac fe fu cryn dipyn o gyd-ganu.

Codwyd cyfanswm o £ 270 a fydd yn mynd tuag at ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig i bobl sy’n byw gyda dementia i wella eu bywydau a’u helpu i fyw’n dda gyda’r afiechyd.