Fe fydd miloedd o bobol ifanc yn cael cynnig brechiad ar gyfer Meinigitis B, fel rhan o arbrawf sy’n ceisio darganfod sut y gall y clefyd gael ei atal rhag lledaenu.

Mae’r brechiad ar hyn o bryd yn cael ei roi gan y Gwasanaeth Iechyd i fabanod yn unig, ond mae ymchwilwyr yn gobeithio ystyried sut y byddai rhoi’r brechiad i bobol ifanc hefyd yn lleihau’r nifer sy’n dioddef o’r clefyd.

Fe fydd yr arbrawf, sy’n cael ei arwain gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Rhydychen, yn cael ei gynnal mewn ysgolion mewn o leiaf 14 tref a dinas yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, a’r gobaith yw cynnig y brechiad i tua 24,000 o bobol ifanc rhwng 16 i 18 oed.

Fe fydd rhai o’r disgyblion hyn yn derbyn dau ddos o’r brechiad MenB (Meinigococccal grŵp B), gyda dau swab o’r gwddf yn cael eu cymryd ar ddau ben o’r flwyddyn.

Bydd hyn wedyn yn dangos i ymchwilwyr os yw’r ddau frechiad yn lleihau’r nifer o ddisgyblion sy’n cario’r clefyd yn eu gyddfau.

Lleihau’r nifer o ddioddefwyr

“Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan [yn yr arbrawf] nid yn unig yn derbyn brechiad a fydd yn lleihau’r tebygolrwydd o gael meingitis, ond hefyd yn ein helpu ni i ddeall os ydyn ni’n gallu rhwystro’r bacteria rhag gael ei gario a’i lledaenu i eraill,” yn ôl Dr Mathew Snap, aeleod o Grŵp Brechiad Prifysgol Rhydychen.

Daw’r arbrawf hwn ar ôl i ddeiseb ledled gwledydd Prydain alw am yr angen i fwy o blant dderbyn y brechiad MenB.

Fe gafodd y tysteb ei sefydlu yn dilyn marwolaeth y plentyn dwy flwydd oed, Fay Burdett, a fu farw ddwy flynedd yn ôl o glefyd sepsis – a ddechreuodd wedi iddi ddioddef o lid yr ymennydd.