Mae Cymorth Canser Macmillan wedi buddsoddi dros £880,000 mewn gwasanaeth i gynorthwyo pobl â chanser sy’n ddifrifol wael yng ngorllewin Cymru.

Yn sgil cyfraniadau gan y cyhoedd, mae’r elusen wedi gwario £882,696 ar wasanaeth oncoleg acíwt mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae’r gwasanaeth yn cynorthwyo pobl â chanser sy’n ddifrifol wael yn yr ysbyty yn sgil eu canser neu yn sgil eu triniaeth am ganser.

“Fel tîm rydym yma i gynorthwyo a chynghori cleifion a chyd-weithwyr pan fydd cleifion canser yn cael eu derbyn i’r ysbyty mewn cyflwr acíwt o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, naill ai yn sgil cymhlethdod â’u canser, cymhlethdod â’u triniaeth am ganser neu’r rhai a chanddynt ddiagnosis newydd o ganser fel cleifion mewnol,” meddai Louise Town, Nyrs Oncoleg Acíwt Uwch Macmillan

“Nod y gwasanaeth yw sicrhau bod y cleifion hyn yn cael y gofal a’r cymorth priodol, gan sicrhau ar yr un pryd y ceir cyfathrebu rhwng tîm yr ysbyty ac oncolegydd y claf.

“Gobeithiwn, drwy ddarparu’r gwasanaeth hwn, y gellir gwella profiad cleifion o gael eu derbyn i’r ysbyty, a chadw’r amser a dreuliant yn yr ysbyty cyn fyrred â phosibl.”

Ers i’r gwasanaeth gychwyn, mae’r tîm wedi cynorthwyo dros 750 o bobl sydd â chanser.