Gallai’r actores Selena Gomez fod wedi marw yn dilyn ei thrawsblaniad aren, yn ôl ei ffrind.

Rhoddodd yr actores Francia Raisa, 29, aren i’w chyfaill 25 mlwydd oed, sy’n dioddef o lupus, y llynedd.

“Roedd y gwaith o wella yn anodd,” meddai Francis Raisa wrth gylchgrawn W.

“Roedd gan Selena gymhlethdod hefyd. Ychydig oriau ar ôl ein llawdriniaeth, deffrais, a gweld bod gen i neges destun ganddi yn dweud ‘Rwy’n ofnus iawn’…

“Roedd yn rhaid iddyn nhw fynd â hi i mewn i gael llawdriniaeth brys a thynnu gwythïen o’i choes … Gallai hi fod wedi marw.”

Roedd hi’n Ddiwrnod Aren y Byd ddoe.