Mae Heddlu De Cymru yn dal i rybuddio gyrwyr i ystyried os yw eu siwrne yn “gwbl hanfodol” cyn teithio.
Oherwydd yr eira a’r rhew, maen nhw’n dweud bod amodau gyrru yn dal i fod yn “beryglus”, gyda nifer o rannau yn y de yn anodd i fynd iddyn nhw.
Maen nhw felly yn annog pobol i “gymryd gofal” wrth deithio, ac i edrych ar wefan Trafnidiaeth Cymru am wybodaeth ynglŷn ag unrhyw ffyrdd sydd ar gau.
Maen nhw hefyd yn cynnig y cynghorion hyn wrth yrru:
- Sicrhau digon o amser wrth deithio;
- Gyrru’n ofalus;
- Defnyddio’r prif ffyrdd, yn hytrach na lonydd bach;
- Gadael digon o fwlch rhyngoch chi a’r car tu blaen;
- Mynd â digon o ddillad twym a diodydd poeth ar y siwrne.
“Peryglus a heriol”
“Er bod cyngor gan y Swyddfa Dywydd yn awgrymu ein bod ni wedi gweld y gwaethaf o’r tywydd,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu, “mae amodau yn debygol o fod yn beryglus ac yn heriol o hyd am y dyddiau nesaf wrth i ni ddychwelyd at normalrwydd.”
“Ac felly mae ein neges i ystyried os yw eich siwrne yn gwbl hanfodol yn aros yr un fath.”