Fe fydd nyrs o Abertawe yn beicio dros 200 milltir ar feic mewn gym yn Abertawe y penwythnos hwn er mwyn codi arian at achos da.

Mae Celyn George, sy’n nyrsio babanod sydd wedi’u geni’n rhy gynnar yn Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd, yn cystadlu yn rownd derfynol Miss Cymru a fydd yn cael ei chynnal ddiwedd mis Ebrill – ac fel rhan o’r gystadleuaeth honno y mae’n rhaid iddi godi arian at elusen.

Mae hi wedi penderfynu beicio 250 milltir er mwyn cynrychioli’r 250 o blant a babanod yng ngwledydd Prydain sy’n marw o ganser bob blwyddyn.

Mi fydd yr arian sy’n cael ei godi hefyd yn cael ei roi i’r elusen ‘Beauty with a Purpose’, sy’n codi arian ar gyfer plant sy’n byw dan anfantais ledled y byd.

Elusen sy’n “agos iawn at fy nghalon i”

“Mae’r elusen yn rhoi arian i blant ledled y byd sydd dan anfantais,” meddai Celyn George wrth golwg360. “Fel nyrs pediatrig, dw i’n gweithio yn yr uned intensive care yng Nghaerdydd, felly mae’r achos hon yn agos iawn at fy nghalon i.

“Os fi’n ennill teitl Miss Cymru, dw i mo’yn mynd â’r teitl wedyn i godi ymwybyddiaeth am elusennau eraill, fe rhai am addysg i ferched, gan dreial adeiladu confidence merched eraill a dangos bo nhw’n gallu gwneud be bynnag maen nhw ishe.”

Mi fydd Celyn George yn beicio ar feic yn y gym 24 awr, Anytime Fitness, yn Abertawe yfory (dydd Sadwrn, Chwefror 17), gan gychwyn am 7:30 y bore.