Mae blog Cymraeg am iechyd meddwl wedi cyrraedd y seithfed safle allan o’r 40 uchaf ar restr Feedspot.com ar y we sy’n canolbwyntio ar anhwylder personoliaeth.

Malan Wilkinson sy’n gyfrifol am y blog, a hynny wedi iddi dreulio cyfnod mewn uned seiciatryddol.

“ Y bwriad,” meddai, “oedd i nodi ac archwilio taith bersonol o ymdopi ag iselder ac Anhwylder Ffiniol Personoliaeth (BPD),” meddai wrth golwg360.

“Ond mi ddois i sylwi yn fuan bod rhai yn anghyfforddus iawn efo’r blog. ‘Pam cyhoeddi gwendid o fath i’r byd ar betws?’ oedd ymateb rhai. ‘Mi wnei di ddychryn pobol, ffrindiau, cyflogwyr a rhoi ti dy hun dan anfantais yn dy yrfa yn y dyfodol’, oedd barn ambell un arall…

“Y peth ydi, dydw i ddim yn gweld BPD fel gwendid, ffaith bywyd ydi fy mod i’n dioddef o’r cyflwr,” meddai Malan Wilkinson wedyn.

 

Yn ei ‘seithfed’ nef

Roedd deall bod ei blog wedi cyrraedd 7fed safle o’r 40 uchaf ar y rhestr fwyaf cynhwysfawr o flogiau BPD sydd ar y we yn “sioc fawr”, meddai Malan Wilkinson, ond yn rhywbeth y mae’n ei groesawu.

“Y newyddion gorau posib, wrth gwrs, ydi fod pobol yn darllen y gwaith ac yn cael budd ohono, fel dw i’n ei gael.

“Mae rhai yn dweud fy mod i’n ddewr yn rhannu’r fath brofiad, ond dw i ddim yn credu fy mod i’n ddewr o gwbwl – dw i’n gwneud beth sydd rhaid i mi wrth geisio gwneud synnwyr o’r cyflwr o ddydd i ddydd. Does dim cywilydd yn hynny.

“Mae ysgrifennu’n beth synhwyrol i’w wneud! Gobeithio wir y bydd y blog yn parhau i fynd o nerth i nerth! Mae angen rhagor i raannu profiadau fel hyn, gan agor y llifddorau i drafod iechyd meddwl.”