Bara di-glwten
Mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru’n talu hyd at ddeg gwaith yn fwy nag sydd raid am rai nwyddau presgripsiwn, yn ôl AC Ceidwadol.
Mae hynny’n cynnwys cost o £20 am dorth o fara di-glwten – yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar, dim ond £2 yw’r pris mewn siop.
Dywedodd yr AC dros Orllewin Clwyd wrth Golwg 360 fod yr ystadegyn yn enghraifft o’r “broblem gyda’r ffordd y mae Gwasanaeth Iechyd Cymru’n mynd ati i reoli adnoddau.”
Mae’r feirniadaeth ddiweddara’n rhan o ymosodiad cyson y Ceidwadwyr ar y Llywodraeth tros y Gwasanaeth Iechyd.
Mae’r Torïaid yn honni bod Llafur yn torri £1 biliwn oddi ar wario iechyd yng Nghymru tra bydden nhw’n ei gynnal.
Yn ôl y pleidiau eraill, fe fyddai’n rhaid torri ar wario mewn meysydd eraill i gadw gwario iechyd yn union fel y mae.
Y ffigyrau
Mae’r ffigyrau, a ddatgelwyd ar gais Darren Millar i Weinidog Iechyd y Llywodraeth, yn dangos fod 47,684 torth o fara ddi-glwten wedi eu hawlio ar bresgripsiwn yn 2010, gan gostio cyfanswm o £984,185.55 – a hynny heb ystyried costau dosbarthu.
“Nid dim ond cost y presgripsiwn sydd angen ei ystyried – ond yr holl gostau sydd ynghlwm wrth gael presgripsiwn,” meddai, gan gynnwys amser y meddyg, yr amser o’r gwaith i fynd i weld y meddyg, a chost prosesu’r presgripsiwn.
Mae’r nifer y presgripsiynau ar gyfer bara heb glwten wedi codi 33% yn ystod y pedair blynedd diwethaf – o 35,959 yn 2006 i 47,684 yn 2010.
Bisgedi ar bresgripsiwn
Mae Darren Millar hefyd yn anfodlon â’r ffaith ei bod hi’n bosib cael cacennau a bisgedi heb glwten neu wenith am ddim ar bresgripsiwn yng Nghymru erbyn hyn.
“Bydd llawer o drethdalwyr yn holi pam eu bod nhw’n cario’r gost am gannoedd o filoedd o bunnoedd o fyr-brydiau fel bisgedi a chacennau.
“Ddylai pobol fod yn talu eu hunain am eitemau mwy moethus sydd ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd,” meddai wrth Golwg 360.
Cafodd 34,740 paced o fisgedi heb glwten neu wenith, neu sy’n isel eu protin, eu hawlio ar bresgripsiwn y llynedd. Roedd cyfanswm y gost i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru dros £200,000.
Mae niferoedd presgripsiwn ar gyfer bisgedi heb glwten neu heb wenith wedi codi 41% yn y pedair blynedd diwethaf – o 18,399 yn 2006 i 26,025 yn 2010.
Sylwadau Darren Millar
“Mae angen i’r Llywodraeth ail-ystyried yr hyn sy’n cael ei gynnig ar bresgripsiwn yng nghanol y toriadau sydd bellach ar waith.
“Tra na ddylid diysytru effaith cyflwr fel clefyd coeliac, mae graddfa a chynnydd y costau hyn yn syfrdanol,” meddai Darren Millar.
“Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn mynd i dorri £1 biliwn oddi ar y gyllideb iechyd. Mae angen iddi weithio gyda swyddogion iechyd er mwyn sicrhau defnydd effeithlon o adnoddau.”