awyren
Mae pobl yn cael eu hannog i gymryd eu tabledi yn erbyn malaria pan maen nhw’n teithio tramor ar ôl i ffigurau ddangos bod achosion yr afiechyd wedi cynyddu 30% mewn dwy flynedd.
Roedd yna 1,761 o achosion o falaria yn y Deyrnas Unedig yn 2010- mewn cymhariaeth a 1,495 yn 2009 a 1,370 yn 2008.
Fe gafodd y ffigurau eu rhyddhau gan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd i nodi Diwrnod Malaria y Byd ac mae’n cynnwys Prydeinwyr ac ymwelwyr oedd wedi dioddef anhwylder ‘nôl ym Mhrydain.
Roedd 850 o achosion o falaria oherwydd bod pobl heb gymryd eu tabledi wrth deithio i wledydd lle mae malaria yn gyffredin.
Mwy o deithio
Dros y ddegawd olaf mae tua hanner o achosion o falaria sydd wedi cael eu hadrodd yn y Deyrnas Unedig wedi bod o ganlyniad i bobl yn teithio i orllewin Affrica ac India.
Yn 2010 roedd pedwar allan o ddeg achos o falaria ymysg trigolion Prydeinig o ganlyniad i deithiau i Nigeria neu Ghana gyda 11% o achosion yn dilyn ymweliadau ag India.
Mae malaria yn cael ei ledaenu gan fosgitos ac mae ond yn cymryd un brathiad i gael eich heintio. Mae symptomau yn gallu datblygu o fewn wyth diwrnod ond fe allai’r afiechyd aros yn y corff yn anactif am hyd at flwyddyn.
Mae’r Athro Peter Chiodini o’r Asiantaeth Diogelu Iechyd wedi dweud dylai pobl cael y cyngor teithio priodol a sicrhau bod ganddynt y feddyginiaeth gywir i’w gwarchod rhag yr afiechyd.
Fe ddywedodd bod angen i’r bobl hynny sy’n teithio o Brydain ‘nôl i’w gwledydd genedigol lle mae malaria yn gyffredin gwarchod eu hunain.