Mae un o daleithiau Awstralia yn agosach at gyfreithloni ewthanasia yn dilyn pleidlais heddiw.

Bu Aelodau Cynulliad talaith Victoria yn dadlau dros y mater am bron i 26 awr ac yn y diwedd fe gafodd y mesur ei basio.

Bydd y mesur yn symud yn ei flaen yn awr at Gyngor Deddfwriaethol Victoria, lle bydd yn cael ei drafod ac o bosib yn cael ei basio’n swyddogol ddiwedd y mis.

Talaith Gogledd Awstralia oedd yr awdurdod cyntaf yn y byd i gyfreithloni ewthanasia i gleifion terfynol gwael – cafodd ei gyfreithloni yn 1995.

Er hynny gwnaeth Senedd Awstralia ddileu’r ddeddf yn 1997. Ond does gan Senedd Awstralia ddim awdurdod i ddileu deddfau yn nhalaith Victoria.