(llun: Wikipedia)
Mae astudiaeth ddiweddar yn awgrymu bod madarch hudol yn medru trin iselder trwy newid y ffordd mae’r ymennydd yn gweithio.

Yn ystod yr astudiaeth gan yr Imperial College yn Llundain, gwnaeth gwyddonwyr rhoi’r cyffur ‘psilosybin’ i 19 unigolyn ag iselder difrifol na ellir ei drin â thriniaeth gyffredin.

Dywedodd yr unigolion eu bod mewn hwyliau gwell am bum wythnos wedi iddyn nhw gymryd y cyffur.

Dangosodd sganiau o’r cleifion bod y cyffur yn diffodd ac aildanio rhannau o’r ymennydd sydd yn achosi iselder.

Mae effeithiau tebyg wedi eu canfod mewn cleifion sydd wedi derbyn therapi electrogynyrfol (ECT) – triniaeth iselder sydd yn achosi ffitiau â thrydan.