Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi beirniadu Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am “golli cyfleoedd” yn achos marwolaeth gŵr yn Ysbyty Gwynedd dair blynedd yn ôl.

Yn ôl yr Ombwdsmon, Nick Bennett, fe gollodd y Bwrdd Iechyd gyfleoedd a allai fod “wedi osgoi dirywiad a marwolaeth” y claf a ddioddefodd ataliad ar y galon ar ddydd Nadolig 2014.

Ychwanegodd fod y Bwrdd wedi cofnodi achos y farwolaeth yn anghywir gan feirniadu hefyd eu hymateb i’r gŵyn.

‘Achos o bryder’

Pan gafodd y gŵr ei gyfeirio at yr ysbyty roedd yn dioddef haint ar y frest oedd yn cynnwys niwmonia a methiant anadlol. O fewn cyfnod o 24 awr, roedd ei gyflwr wedi gwaethygu gyda chofnodion fod ganddo anaf aciwt i’r aren o ganlyniad i sepsis, ond ni chafodd driniaeth i hyn.

Fe gyflwynodd perthynas iddo gŵyn i’r Bwrdd Iechyd ym mis Chwefror 2015 ond ni chafodd ymateb tan flwyddyn a mwy yn ddiweddarach.

“Mae’n achos o bryder mawr i mi fod y Bwrdd Iechyd yn gwrthod cyfaddef pe baen nhw wedi ymdrin yn wahanol â gofal [y claf], gallai ei farwolaeth fod wedi cael ei hatal,” meddai Nick Bennett.

 

‘Is na’r safon’

“Nid yn unig oedd y gofal yn is na’r safon yn yr achos hwn, rydw i’n gweld sylwadau’r Bwrdd Iechyd yn anonest ac yn dangos amharodrwydd i dderbyn difrifoldeb y sefyllfa,” ychwanegodd Nick Bennett.

“Ymhellach na hynny, cofnodwyd achos marwolaeth [y claf] yn anghywir, gan achosi hyd yn oed fwy o ofid i’r teulu ac mae hyn yn annerbyniol.”

Ychwanegodd y dylai’r Bwrdd Iechyd “ddysgu o’r achos hwn” gan fynd i’r afael â’r “methiannau clinigol difrifol.”