Mae adroddiad newydd gan arbenigwyr meddygol yn galw am wahardd yr elfen o daclo a sgrymiau yng ngemau rygbi’r ysgolion.

Mae’r astudiaeth gan Sefydliad Iechyd Prifysgol Newcastle yn awgrymu fod pobol ifanc sy’n dioddef o gyfergyd yn medru datblygu cymhlethdodau’n hwyrach yn eu bywydau.

Wrth ysgrifennu ym mhapur meddygol y BMJ mae’r awduron, Allyson Pollock a Graham Kirkwood, yn galw ar wleidyddion i roi “buddiannau’r plentyn cyn [buddiannau] undebau rygbi corfforaethol, proffesiynol.”

Anafiadau

Mae anafiadau wedi bod yn bwnc llosg o fewn rygbi’n ddiweddar, gyda sawl achos o chwaraewyr yn gorfod ymddeol oherwydd anafiadau i’r pen, ac fe ddioddefodd George North gyfres o gyfergydion i’w ben y llynedd.

Mae’r astudiaeth yn nodi fod rygbi, hoci iâ a phêl-droed Americanaidd ymysg y campau mwyaf peryglus i blant ddioddef o gyfergydau.

Ym mis Mawrth y llynedd fe wnaeth dros 70 o feddygon ysgrifennu at swyddogion y Llywodraeth yng Nghaerdydd a San Steffan i ddweud y dylai taclo gael ei wahardd mewn gemau rygbi yn yr ysgol.