Ymgyrch i achub llyfrgell ym Mhenygroes (Llun Ben Gregory)
Mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru wedi ymateb yn chwyrn i adroddiad sy’n dweud y gallai dros hanner o wariant cyhoeddus Llywodraeth Cymru fynd i’r Gwasanaeth Iechyd.

Maen nhw’n dweud bod angen trin gwasanaethau lleol yn gydradd gyda’r Gwasanaeth Iechyd – fel arall, medden nhw, fe fydd “oblygiadau enfawr”.

Yn ôl y mudiad  sy’n cynrychioli holl gynghorau sir Cymru, mae wyth mlynedd o lymder wedi golygu bod hi’n “argyfyngus” ar wasanaethau lleol – gyda llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden yn gorfod cau.

Yr adroddiad – dim cynnydd ers 2010

Ymhen pedair blynedd, gallai 56c o bob punt sy’n cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar wasanaethau cyhoeddus fynd i’r Gwasanaeth Iechyd, yn ôl adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru a Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru 2025.

Ac mae’n dweud bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllideb y gwasanaeth iechyd wedi golygu bod rhai gwasanaethau eraill heb weld cynnydd yn eu hadnoddau ers 2010.

Mae’n gyfystyr i gynnal “Sêl cau busnes” am saith mlynedd, yn ôl arweinydd y Gymdeithas, Debbie Wilcox o Gyngor Dinas Casnewydd.

Galw am roi’r gorau i lymder

“Gwasanaethau llywodraeth leol yw ‘Sindarela’ gwasanaethau cyhoeddus Cymru,” meddai’r Gymdeithas, gyda meysydd fel trafnidiaeth, diwylliant, llyfrgelloedd, a gwasanaethau amgylcheddol yn gorfod ysgwyddo baich y toriadau cyllidebol.

Maen nhw’n galw ar i Lywodraeth Prydain roi’r gorau i’r toriadau ac ar Lywodraeth Cymru i roi cydraddoldeb i wasanaethau lleol.

Mewn rhai ardaloedd cymharol dlawd, meddai, mae cynghorau wedi torri gwario ar ddatblygu economaidd o gymaint â 60%.

Maen nhw’n dadlau bod gwasanaethau lleol eraill, fel iechyd amgylchedd, yn help i leihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd.

Ymateb Llywodraeth Cymru – cyhoeddi’r gyllideb ddrafft

“Rydym yn croesawu’r adroddiad hwn, sy’n dangos yn glir y penderfyniadau cyllidebol anodd ry’n ni’n eu hwynebu,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig tro ar ôl tro i ddod â’i agenda llymder diangen i ben, sydd wedi arwain at doriadau termau real i’n cyllideb ers 2010.

“Byddwn yn cyhoeddi amlinelliad o’n cyllideb ddrafft ar 3 Hydref, a fydd yn adlewyrchu ein hymroddiad i ddarparu sefydlogrwydd i’n gwasanaethau cyhoeddus ar adeg ansicr.”