Ad-drefnu cymwysterau i bobl ym maes gofal
Mae ad-drefniant cymwysterau i bobol sydd am ddilyn gyrfa ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant, wedi cael ei gyhoeddi heddiw.
Bydd y newidiadau yn arwain at 243 cymhwyster yn cael eu disodli gan 20 o rai newydd, o fis Medi 2019 ymlaen.
Hefyd mi fydd consortiwm newydd yn cael ei sefydlu a fydd yn darparu’r cymwysterau, yn lle’r 21 corff sydd yn eu darparu ar hyn o bryd.
Bydd y consortiwm yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, GIG Cymru, athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr er mwyn dylunio a chyflwyno’r cymwysterau newydd.
Newidiadau “sylweddol”
Yn ôl Cymwysterau Cymru mae’r newidiadau “ymysg y mwyaf sylweddol erioed” yn y system cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru.
“Mae’r newidiadau hyn ymysg y mwyaf sylweddol erioed yn y system cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru,” meddai Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker.
“Rydym yn mynd i’r afael â’r materion y tynnwyd sylw atynt yn ein hadolygiad. Caiff y cymwysterau newydd eu cyflwyno gyda chymorth llawn ein partneriaid y mae ganddynt wybodaeth helaeth am anghenion cyflogwyr, a’r bobl y maent yn darparu gofal iddynt.
“Darperir y cymwysterau presennol gan 21 o gyrff gwahanol, felly bydd newid i un consortiwm yn gwneud cynllunio gyrfa a chamu ymlaen ynddi’n llawer symlach.”