Llun: Y Gwasanaeth Iechyd (GIG)
Mae’n bwysig sgwrsio â theulu a ffrindiau ynglŷn â rhoi organau, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Er mwyn sicrhau bod mwy o bobol yn cofrestru eu penderfyniad naill ai drwy ymuno â’r rhestr o roddwyr organau neu drwy wneud yn siŵr bod eu teulu yn gwybod beth yw eu dymuniad, mae’r Llywodraeth yn annog pobol i wneud eu penderfyniad yn hysbys i eraill cyn ei bod yn rhy hwyr.

Yn ôl data a gyhoeddwyd gan adran Gwaed a Thrawsblaniadau’r Gwasanaeth Iechyd, roedd yna 21 o achosion yn 2016-17 lle’r oedd teuluoedd naill ai wedi mynd yn groes i benderfyniad eu perthynas i roi organau, neu wedi gwrthod cefnogi’r caniatâd tybiedig – rhif a allai fod wedi cynorthwyo 69 o drawsblaniadau ychwanegol.

Mwy o organau dros gyfnod o amser

Yn yr hirdymor, er hynny, mae disgwyl y bydd cynnydd yn nifer yr organau sy’n cael eu rhoi, a hynny o ganlyniad i newid yn y system a ddaeth i rym yn Rhagfyr 2015 sy’n golygu bod unigolion sydd heb gofrestru eu penderfyniad i roi neu beidio â rhoi organau, yn cael eu hystyried fel rhai sydd heb wrthwynebiad i roi organau.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er enghraifft, bu gostyngiad o 18.5% yn  nifer y cleifion sydd wedi marw tra roeddynt ar y rhestr aros yn disgwyl am drawsblaniad.

Angen pobol i egluro eu penderfyniad

Ond yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, mae’n rhaid inni “weithio’n galetach” i gynyddu nifer y boblogaeth sy’n cydsynio i roi organau, a hynny er mwyn gweld “gostyngiad” yn y nifer o gleifion sydd ar y rhestrau aros.

“Dw i’n awyddus i annog pawb yng Nghymru”, meddai, “i siarad â’u hanwyliaid am eu penderfyniad ynghylch rhoi organau.”

“Er ein bod yn gwybod bod mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, mae’n hynod bwysig bod pobl Cymru yn egluro eu penderfyniad wrth eu teuluoedd.”