Bydd modd i barafeddygon ennill hyd at £7,000 yn fwy o gyflog dan drefn newydd sy’n cael ei chyflwyno gan Lywodraeth Cymru.

Mi fydd y cytundeb newydd, sy’n dod i rym fis nesaf, yn golygu y bydd parafeddygon sydd ar gyflog Band 5 (tua £21,000-£28-000) yn medru dringo i gyflog Band 6 (£26,000-£35,000).

Daw’r cytundeb o ganlyniad i drafodaethau a gynhaliwyd rhwng Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, undebau llafur, y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans a Llywodraeth Cymru.

Mae’r codiad cyflog yn gydnabyddiaeth gan y Llywodraeth o’r sgiliau ychwanegol a’r profiad sydd angen ar barafeddygon i gyflawni mwy o waith clinigol mewn gwasanaethau iechyd modern – sy’n ychwanegiad at y rôl draddodiadol o ddarparu gofal cyn-ysbyty i gleifion.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, mae’r hyn sy’n ofynnol o barafeddygon wedi newid “yn sylfaenol” dros y blynyddoedd wrth iddyn nhw ymgymryd â nifer o ddyletswyddau gwahanol – gan gynnwys gofal brys a gofal heb ei drefnu.

“Mae Parafeddygon yn gweithio’n ddiflino, ddydd ar ôl dydd yn achub bywydau ac yn cefnogi eu cymunedau.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn cydnabod eu cyfrifoldebau cynyddol, ac yn rhywbeth i’w groesawu.”

Newyddion da i barafeddygon a phobl Cymru

Mae Prif Swyddog Ambiwlans UNSAIN Cymru yn credu y bydd parafeddygon a chleifion “ar eu hennill” yn sgil y cyhoeddiad hwn gyda’r sgiliau newydd sy’n cael eu cyflwyno i barafeddygon yn eu galluogi i ddelio â gofal iechyd “ar ei newydd wedd”.

“Dyma newyddion da i barafeddygon a newyddion da i bobl Cymru”, meddai Darron Dupre.