Mae aros yn y sustem addysg yn gysylltiedig â risg is o ddatblygu clefyd ar y galon, yn ôl astudiaeth sydd wedi’i chyhoeddi heddiw.

Mae’r astudiaeth sydd wedi’i chyhoeddi yn y British Medical Journal, yn cynnig y dystiolaeth gryfaf hyd yma bod cysylltiad rhwng y ddau ffactor – yn ôl yr awduron. 

Er mwyn dod i’w casgliad mi wnaeth ymchwilwyr yr astudiaeth ddadansoddi genynnau 543,733 o ddynion a menywod, oedd yn bennaf o dras Ewropeaidd.

Trwy’r dadansoddiad yma mi wnaeth yr ymchwilwyr ddarganfod bod 3.6 blynedd bellach o addysg – neu radd israddedig – yn gyfystyr â chwymp traean mewn risg clefyd coronaidd y galon.

Roedd tuedd genetig tuag at dreulio mwy o amser mewn addysg hefyd yn gysylltiedig â thebygolrwydd is o smygu a phwysau is. 

“Gwella iechyd y boblogaeth”

“Mae cynyddu’r nifer o flynyddoedd mae pobol yn treulio yn y sustem addysg yn medru lleihau’r risg o ddatblygu clefyd coronaidd y galon, gan gryn dipyn,” meddai awduron y siwrnal. 

“Dylai fod y dadansoddiad yma yn annog trafodaethau polisi ynglŷn â chynyddu cyraeddiadau addysgol ymysg y boblogaeth gyffredinol er mwyn gwella iechyd y boblogaeth.”

Tîm o ymchwilwyr rhyngwladol o University College London, Prifysgol Lausanne a Phrifysgol Rhydychen oedd yn gyfrifol am yr ymchwil.