Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi beirniadu bwrdd iechyd yn dilyn marwolaeth dynes oedrannus ar droli mewn ysbyty.

Yn ôl yr Ombwdsmon, Nick Bennett, aeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i’r afael â gofal y ddynes mewn modd “anghyson a niweidiol”.

Cafodd y ddynes (dydi ei henw ddim yn cael ei gyhoeddi) ei derbyn i Ysbyty Cyffredinol Llandudno yn 2015 mewn cyflwr difrifol.

Dros 11 diwrnod cafodd ei throsglwyddo ar ddau achlysur i Ysbyty Gwynedd sydd 22 milltir i ffwrdd, er mwyn cael sganiau CT – sganiau “na fyddai o fudd iddi o gwbl” yn ôl yr Ombwdsmon.

Mae wedi dod i’r amlwg na chafodd yr un sgan yn ystod yr ymweliadau, ac yn ystod yr ail ymweliad cafodd y ddynes ei gadael ar droli lle bu farw’n fuan wedyn. 

“Groes i egwyddorion”

“Aeth Betsi Cadwaladr i’r afael â gofal [y ddynes] mewn modd a oedd yn niweidiol i’w lles ac yn groes i egwyddorion gofal iechyd darbodus y Llywodraeth sydd â’r nod o ddarparu gofal sy’n ‘gwneud dim ond beth sydd ei angen a gwneud dim niwed, dim mwy, dim llai’,” meddai’r Ombwdsmon Nick Bennett.  

“Mae gan fy swyddfa rôl i hyrwyddo hawliau dynol pobl gyffredin wrth ddelio â gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.   

“Yn yr achos yma, cafodd hawl [y ddynes] i gael ei thrin ag urddas ar ddiwedd ei hoes ei rhoi yn y fantol oherwydd penderfyniadau gwael ac anghyson, yn rhannol oherwydd absenoldeb meddyg ymgynghorol, ac mae hyn yn fethiant difrifol.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb y bwrdd iechyd.