Mae’r nifer o bobol sydd yn aros dros flwyddyn am lawdriniaeth yng Nghymru wedi cynyddu o 400% dros y pedair blynedd diwethaf.

Yn ystod y 12 mis hyd at Fawrth 2017, roedd cofnod o 3,605 o bobol oedd wedi bod yn aros dros flwyddyn am lawdriniaeth – 699 oedd y ffigur yn 2013.

Mae’r  ystadegau, sydd wedi’u rhyddhau trwy gais rhyddid gwybodaeth gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon, hefyd yn dangos mai 1,302 oedd y ffigur ar gyfer Lloegr ar gyfer yr un cyfnod.

Byrddau Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Abertawe Bro Morgannwg  welodd y cynnydd mwyaf yn y nifer o gleifion yn aros dros flwyddyn.

“Derbyniadau diangen”

Yn ôl Cyfarwyddwr Rhanbarthol Cymru Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, Tim Harvard, byddai modd mynd i’r afael â’r broblem trwy ganolbwyntio ar ofal cymunedol.

“Mae’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn wynebu pwysau ar sawl lefel, gyda wardiau ysbytai yn llawn gleifion dylai fod yn cael eu trin yn y gymuned a phwysau’n parhau ar gyllidebau,” meddai.

“Byddai gwella argaeledd gwelyau cymuned, gofal cynradd, a gofalu am bobol yn eu cartrefu eu hunain yn lleihau y nifer sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty yn ddiangen.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Er gwaethaf y galw cynyddol ar y GIG yng Nghymru, mae’r gwasanaeth iechyd yn trin mwy o gleifion, gyda’r mwyafrif helaeth yn cael eu gweld o fewn yr amseroedd targed.

“Dros y 5 mlynedd diwethaf, mae atgyfeiriadau at wasanaethau yn yr ysbyty wedi cynyddu tua 20% o 1.07 miliwn yn 2012/13 i 1.27 miliwn yn 2015/16. Mae cynnydd mewn arbenigeddau unigol hyd yn oed yn uwch, gydag atgyfeiriadau orthopedig yn unig wedi gweld cynnydd o 22%.

“Er gwaethaf hyn, mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod dros hanner y cleifion yn aros llai na 10 wythnos ar gyfer triniaeth, tra bod gostyngiad o 28% wedi bod yn y nifer sy’n aros dros 36 wythnos ym mis Mawrth 2017 o gymharu â’r un cyfnod yn 2016.

“Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod rhai yn dal i aros yn rhy hir am driniaeth. Dyna pam y sefydlwyd rhaglen ofal i helpu GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau cynaliadwy.

“Yn ogystal â hyn, mae gan fyrddau iechyd gynlluniau gweithredu ar waith i leihau arosiadau hir, ac yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd £50m ychwanegol i helpu’r GIG i wella amseroedd aros ymhellach. Mae’n disgwyl gweld gwelliant mewn perfformiad o ganlyniad i’r buddsoddiad ychwanegol yma, fel bod pob claf yn derbyn gofal amserol, o’r safon uchaf.”