Mae nyrs sy’n cael ei amau o ladd cleifion yn yr Almaen, trwy eu gor-ddosio â meddyginiaeth at glefyd y galon, yn cael ei amau bellach o ladd o leiaf 84 o bobol.

Fe gafwyd Niels Hoegel yn euog yn 2015 o ddwy lofruddiaeth a dau achos o geisio llofruddio, mewn clinig yn nhref Delmenhorst yng ngorllewin yr Almaen.

Ond roedd erlynwyr yn amau ei fod yn gyfrifol am fwy o farwolaethau.

Heddiw (ddydd Llun, Awst 28) mae pennaeth yr heddlu yn Oldenburg wedi rhyddhau datganiad yn dweud fod yna dystiolaeth i’r nyrs ladd 84 o bobol yn ychwanegol i’r rhai y mae wedi’i garcharu am eu cyflawni.

“Wyth deg a phedair marwolaeth… rydan ni’n gegrwch,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu. “Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, mae’n rhaid i ni gydanbod ei bod hi’n bosib fod y nifer yn sylweddol uwch na hynny.”