Vaughan Gething - cyhoeddiad heddiw (Llun y Cynulliad Cenedlaethol)
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, yn dweud y bydd yn cyflwyno gwasanaethau arbenigol mewn ysbytai ledled y wlad i bobol sydd wedi newid rhyw.

Dyma’r tro cynta’ i wasanaeth o’r fath gael ei sefydlu yng Nghymru a’r bwriad yw cynnig y rhan fwyaf o driniaethau “hunaniaeth rhywedd” yn nes at gartrefi pobol.

Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o bobol sydd eisiau triniaethau newid rhyw yn gorfod mynd i Glinig Hunaniaeth Rhywedd yn Llundain.

Fe fydd y gwasanaeth newydd yn cynnwys adran arbenigol yn Ysbyty Caerdydd a sicrhau bod meddygon ledled Cymru sy’n arbenigo yn y maes.

“Cynnydd yn y galw”

Daw’r cyhoeddiad ar drothwy penwythnos Pride Cymru, sy’n hybu materion yn ymwneud â phobol hoyw, lesbaidd, deurywiol a thrawsryweddol.

Bydd y gwasanaeth newydd, dan enw Tîm Rhywedd Cymru, yn dechrau ym mis Mawrth 2018, pan fydd yn dechrau atgyfeiriadau uniongyrchol gan feddygon teulu.

“Dros yr ychydig flynyddoedd diwetha’, rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd i bobl drawsryweddol yng Nghymru,” meddai Vaughan Gething.

“Mae’r gwasanaethau newydd yn golygu y bydd yr holl wasanaethau ac eithrio’r rhai mwyaf arbenigol ar gael yng Nghymru cyn hir, a hynny mor agos â phosibl at gartrefi’r defnyddwyr.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am gost y gwasanaeth newydd.