Torgoch, pysgodyn prin
Bydd Dŵr Cymru yn buddsoddi £6.5m ar wella’r ffordd y maen nhw’n trin carthffosiaeth yn Llanberis.

Pwrpas y buddsoddiad yw amddiffyn Llyn Padarn – Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a chartref y pysgodyn prin y torgoch rhag llygredd.

Daw’r penderfyniad yn dilyn blynyddoedd o frwydro cyfreithiol gan y gymdeithas ar gyfer pysgotwyr a chlybiau pysgota, Fish Legal.

Roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwadu am flynyddoedd mai carthffosiaeth oedd yn achosi problemau yn y llyn, ond yn dilyn yr achosion llys mi wnaeth y sefydliad adolygu trwydded y safle.

“O’r diwedd”

“O’r diwedd, mae’r rheoleiddiwr – Cyfoeth Naturiol Cymru – wedi gweithredu er mwyn gorfodi Dŵr Cymru i gymryd camau i fihafio’n well,” meddai Ysgrifennydd Cymdeithas Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni, Huw Hughes.

“Mae’n beth trist bod hyn wedi cymryd mor hir… Mae dŵr y llyn yn llawer gwell erbyn hyn. Diolch i Fish Legal – nid yn unig o’r gymdeithas ond o’r ardal yn gyffredinol.”