Fe fydd prawf newydd i brofi am Syndrom Down yn cael ei gyflwyno i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru erbyn 2018.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r prawf yn “fwy diogel a chywir” i fenywod yn ystod eu beichiogrwydd.

Bydd y prawf yn cael ei gynnig yn rhan o’r rhaglen sgrinio i fenywod a’i enw ffurfiol ydi ‘Prawf cynenedigol anfewnwthiol’ neu NIPT – (non-invasive prenatal testing).

Sut y mae’n gweithio?

Bydd y prawf yn cael ei gynnig yn ddewis ychwanegol i fenywod yn ystod eu cyfnod sgrinio os ydyn nhw wedi cael gwybod bod risg i’w plentyn ddatblygu Syndrom Down, Edwards neu Patau.

Ar hyn o bryd mae opsiwn o’r enw ‘prawf mewnwthiol’ yn cael ei gynnig i gadarnhau diagnosis o Syndrom Down yn ystod beichiogrwydd. Mae rhywfaint o risg o golli’r babi drwy’r profion diagnostig mewnwthiol hyn.

“Mae NIPT yn fwy cywir na’r profion sylfaenol a ddefnyddir ar hyn o bryd,” meddai Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd.

“Bydd cael canlyniad NIPT negyddol yn rhoi’r sicrwydd y mae ei angen ar fenywod beichiog, heb angen prawf diagnostig mewnwthiol pellach – gan leihau’r posibilrwydd o niwed diangen a cholli babi a allai ddigwydd yn sgil defnyddio profion o’r fath.”

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig a Phwyllgor Sgrinio Cymru i gyflwyno’r prawf.