Llun: PA
Mae o leiaf 1.8 miliwn o bobol 65 oed neu’n hŷn yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn debygol o ddioddef o gyflwr deintyddol brys.
 

Dyna ganfyddiad adroddiad newydd gan Gyfadran Llawfeddygaeth Ddeintyddol (FDS) sy’n nodi y gallai’r ffigwr hwnnw godi 50% erbyn 2040.

Maen nhw’n galw ar weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gael hyfforddiant i drin dannedd er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.

Mae’r cyflyrau’n cynnwys poen deintyddol, sepsis y geg, heintiau a phydredd dannedd – ac fe allai’r rhain arwain at pneumonia a diffyg maeth ymysg henoed.

Ffigurau ‘trychinebus’

“Rydym yn gadael pobol hŷn i lawr ar adeg pan maen nhw angen help fwyaf,” meddai Michael Escudier, un o arweinwyr yr adroddiad, gan ddisgrifio’r ffigurau yn “drychinebus”.

Dywedodd fod angen “strategaeth ar y cyd” i wella mynediad pobol hŷn at wasanaethau deintyddol.

Yn ddiweddar, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am fuddsoddi £1.3 miliwn i greu 10,000 o lefydd deintydd newydd fel rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn rhai o “ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.”