Charlie Gard (Llun y teulu/PA)
Mae un o’r meddygon oedd wedi gofalu am y babi 11 mis oed Charlie Gard wedi dweud bod ei ddyddiau olaf “fel opera sebon”.

Mewn erthygl ddi-enw yn y Guardian, dywedodd y meddyg fod y babi 11 mis oed wedi cael ei gadw’n fyw er lles pobol fel Donald Trump, y Pab a Boris Johnson.

Yn yr erthygl, mae’r meddyg yn dweud ei bod hi’n un o’r tîm o 200 o nyrsys, meddygon a meddygon ymgynghorol oedd wedi gofalu am y babi bach yn yr uned gofal dwys.

Dywedodd: “Fel yr holl staff sy’n gweithio yn ein huned ni, ro’n i’n caru’r plentyn hwn yn fawr.

“Ond fe ddaeth i’r fan lle nad oedden ni’n gallu gwneud rhagor.”

‘Digon yw digon’

Dywedodd hi nad oedd y tîm am i Charlie Gard farw, ond mai eu gwaith a’u “gorfodaeth foesol” oedd lleisio barn a dweud “digon yw digon”.

“Fe wnaethon ni roi cyffuriau a hylifau iddo fe, fe wnaethon ni bopeth roedden ni’n gallu, er ein bod ni’n credu y dylai fod yn gallu marw ym mreichiau ei rieni’n dawel fach ac yn llawn cariad.

Wrth drafod yr ymdrechion i’w gadw’n fyw, ychwanegodd y meddyg: “Wnaethon ni ddim gwneud hyn er lles Charlie. Wnaethon ni ddim hyd yn oed gwneud hyn er lles ei fam a’i dad.

“Yn ddiweddar, fe wnaethon ni hyn er lles Donald Trump, y Pab a Boris Johnson, oedd yn sydyn iawn yn gwybod mwy am afiechydon mitocondriaidd na’n meddygon ymgynghorol.”

Profiadau rhieni Charlie Gard

Wrth drafod dyddiau olaf Charlie Gard, dywedodd ei rieni, Chris Gard a Connie Yates mewn cyfweliad â’r Daily Mail eu bod nhw’n llefain yn gyson yn ystod dyddiau olaf eu mab, a fu farw ddyddiau’n unig cyn ei ben-blwydd yn flwydd oed.

Dywedodd Connie Yates: “Roedd Chris a fi’n llefain. Wnaethon ni orwedd ar y gwely gyda Charlie rhyngom ni, a’r ddau ohonon ni’n dal ei ddwylo. Roedden ni’n dweud ein bod ni yno, ein bod ni’n ei garu fe, a pha mor falch oedden ni ohono fe.

“Datgysylltodd aelod o staff y peiriant anadlu fel bod tiwb yn dal yn nhrwyn Charlie, ond doedd e ddim yn gweithio.

“Agorodd Charlie ei lygaid ac edrych arnon ni am y tro olaf a’u cau nhw cyn marw.

“Cawson ni rybudd y gallai gymryd pum neu chwe munud iddo fe farw. Ond fe gymerodd 12 munud i’w galon stopio curo.”

Her gyfreithiol

Aeth rhieni Charlie Gard â’u hachos i sawl llys am eu bod nhw eisiau mynd â fe i’r Unol Daleithiau i gael triniaeth oedd yn cael ei gwrthod gan ysbyty Great Ormond Street.

Dywedodd meddygon mai arbrawf fyddai’r driniaeth ac na fyddai’n achub ei fywyd.

Dywedodd y meddyg yn yr erthygl: “Dros yr wythnosau diwethaf, mae rhannau o’r cyfryngau a rhai aelodau’r cyhoedd wedi troi bywyd babi bach sâl yn opera sebon ac yn fater cyfreithiol tanllyd sy’n cael ei drafod o amgylch y byd.”

Dywedodd fod staff yn ysbyty Great Ormond Street wedi cael eu sarhau ar y cyfryngau cymdeithasol a bod rhai yn gofyn pam eu bod nhw wedi ceisio lladd Charlie Gard.

Dywedodd fod y mater wedi codi amheuon ymhlith rhieni eraill a fyddai eu plant yn derbyn y gofal gorau yn yr ysbyty.