Roedd meddyg ifanc a gafodd ei ganfod yn farw yn yr ysbyty lle’r oedd e’n gweithio yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty hwnnw.

Dyw’r dyn yn ei 30au ddim wedi cael ei enwi eto, ond cafodd ei ddarganfod yn farw yn ysbyty Musgrove Park yn Taunton nos Lun. Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf yn cynnal ymchwiliad, ac maen nhw wedi trosglwyddo’r achos i’r crwner.

Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Taunton a Gwlad yr Haf eu bod nhw’n “ymwybodol” fod angen “peth cefnogaeth” arno cyn ei farwolaeth.

“Yn amlwg, r’yn ni’n gofyn i ni ein hunain a oedd y gefnogaeth hon yn bopeth y gallen ni fod wedi ei rhoi.”

Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod y crwner yn ymdrin ag achos o farwolaeth sydyn dyn yn ei 30au.