Llun: PA
Gan ddechrau heddiw mi fydd pob babi sy’n cael ei eni yn y Deyrnas Unedig yn cael cynnig brechiad fydd yn eu hamddiffyn rhag chwe afiechyd yn hytrach na phump.
Yn y gorffennol mae plant wedi bod yn derbyn brechiad sydd yn amddiffyn rhag pum afiechyd: difftheria, polio, tetanws, y pâs a ffliw math b (Hib).
Ond, o Awst 1 mi fydd y brechiad hefyd yn amddiffyn babanod rhag chweched haint sef hepatitis B.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r brechiad Hexavelent “yn welliant” ar yr hyn sydd eisoes yn cael ei gynnig .
Mae babis yn derbyn y brechiad tair gwaith: pan maen nhw’n wyth wythnos, 12 wythnos, ac 16 wythnos oed.
Mae’r brechiad eisoes yn cael ei gynnig mewn 97 gwlad ledled y byd.