Charlie Gard (Llun trwy law y teulu/PA)
Mae disgwyl i’r babi 11 mis oed, Charlie Gard, gael ei symud i hosbis i farw ar ôl i farnwr yr Uchel Lys osod amserlen dros y dyddiau olaf o’i fywyd.

Doedd rhieni’r bachgen bach na meddygon yn Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain ddim yn gallu cytuno ar gynlluniau gofal amdano.

Os na fydd y ddwy ochr yn gallu cytuno erbyn canol dydd dydd Iau, bydd y babi, sy’n derfynol gwael yn cael ei symud i hosbis a bydd y driniaeth sy’n ei gadw’n fyw yn dod i ben.

Y fam mewn dagrau

Mae’n debyg nad oedd rhieni Charlie – Connie Yates a Chris Gard – yn hapus gyda’r dyfarniad, gyda’i fam mewn dagrau ac yn gweiddi, “Dw i’n gobeithio eich bod yn fodlon gyda chi’ch hunain.”

Roedd y ddau wedi dweud yn wreiddiol eu bod am i’w mab dreulio ei ddyddiau olaf yn ei gartref ond mae meddygon yn dweud nad yw hynny’n ymarferol.

Dydd Mercher, dywed cyfreithwyr y cwpl eu bod nhw bellach wedi penderfynu ei fod yn well i Charlie symud i hosbis ond bod anghytuno rhyngddyn nhw a’r meddygon ar yr union gynlluniau.

Roedd y cwpwl am fynd i hosbis breifat, lle gallai Charlie Gard fyw am ddyddiau cyn marw ond yn ôl penaethiaid Great Ormond Street, doedden nhw ddim wedi’u darbwyllo y bydd digon o staff arbenigol ar gael i’w helpu.

Mae’n debyg bod ei rieni yn ystyried apêl yn erbyn y dyfarniad.