Mae mwy na 100,000 o bobol dros 90 oed yn dal trwydded yrru, yn ôl ystadegau y DVLA.

Ac mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos fod 248 o bobol dros 100 oed yn dal ati i yrru, o blith y cyfanswm o 100,281 o yrwyr dros 90 oed.

Unwaith y mae gyrrwr yn cyrraedd 70, mae gofyn iddo adnewyddu ei drwydded bob tair blynedd, ynghyd ag ateb cwestiynau ysgrifenedig am gyflwr ei iechyd ac ansawdd ei olwg.

Ond, mae astudiaeth gan Brifysgol Abertawe y llynedd wedi dangos nad yw gyrwyr dros 70 oed yn fwy peryglus ar y ffyrdd nag ydi gyrwyr eraill. Tra bod yr amser y mae’n gymryd i yrrwr aeddfed ymateb i ddigwyddiad ar y ffordd yn cynyddu, mae’n gallu gwneud yn iawn am hynny trwy fod yn fwy gofalus ar y lôn.

Mae ystadegau eraill gan y DVLA yn dangos fod cyfanswm o 39,975,351 o drwyddedau wedi’u dyfarnu, a thros eu hanner nhw (54.1%) i ddynion. Mae’r ddynes hynaf sy’n dal trwydded dros-dro (provisional) yn 103 oed.