Rhieni Charlie Gard (Llun trwy PA)
Fe fydd barnwr yn yr Uchel Lys yn penderfynu heddiw a fydd y babi 11 mis oed, Charlie Gard yn cael mynd adref i farw.

Mae ei rieni, Connie Yates a Chris Gard wedi gofyn am gael mynd â’u mab adref, ond mae meddygon yn Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain yn dweud na fydd e’n derbyn y driniaeth arbenigol sydd ei hangen arno pe bai hynny’n digwydd.

Yn ôl meddygon, fyddai peiriant anadlu ddim yn ffitio yng nghartre’r teulu, ac maen nhw’n dadlau y dylai gael ei symud i hosbis.

Dywedodd y barnwr, yr Ustus Francis mai prin fyddai gobeithion rhieni Charlie Gard o gael gwireddu’u dymuniad o fynd â’u mab adref.

Mae disgwyl dyfarniad am 2 o’r gloch.

Cefndir

Nid dyma’r tro cyntaf i rieni Charlie Gard fod yn y llys i drafod triniaeth a gofal eu mab.

Roedden nhw wedi bod yn brwydro am yr hawl i fynd â’u mab i’r Unol Daleithiau ar gyfer triniaeth arloesol i geisio achub ei fywyd. Ond mae’r ysbyty’n dadlau y dylid rhoi’r gorau i driniaeth cynnal bywyd y babi yn gyfangwbl.

Yn ôl cyfreithiwr y teulu, fe fu Ysbyty Great Ormond Street yn gosod rhwystrau yn y ffordd ers y dechrau, ac mae’r ffaith nad yw’r ysbyty wedi rhoi’r hawl i’r teulu fynd â’u mab adref yn “greulon”.

Ond mae cyfreithwyr ar ran yr ysbyty yn dweud nad yw hynny’n wir, a bod y staff “wedi symud nef a daear” i’w helpu, a’u bod nhw wedi dod o hyd i hosbis addas ar ei gyfer.

Ar ôl i lys ddyfarnu y dylid gadael iddo farw, mae’r rhieni eisoes wedi colli achosion yn yr Uchel Lys, y Llys Apêl a’r Goruchaf Lys.

Roedden nhw hefyd wedi colli’r hawl i gael cyflwyno’u hachos gerbron Llys Hawliau Dynol Ewrop.

Fe gyflwynodd y rhieni dystiolaeth newydd dros yr wythnosau diwethaf, ond fe benderfynon nhw ddydd Llun y bydden nhw’n rhoi’r gorau i’w hachos.