Y frech goch
Mae dau achos newydd o’r frech goch yn ardaloedd Casnewydd a Thorfaen wedi cael eu cadarnhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Cafodd tair achos arall eu cadarnhau bythefnos yn ôl, a bellach mae cyfanswm o 10 achos wedi cael eu cadarnhau yn yr ardaloedd hynny.

 gwyliau haf ysgolion yn dechrau’n swyddogol mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn galw ar rieni i sicrhau bod eu plant wedi eu brechu.

“Heintus dros ben”

“Mae dechrau gwyliau ysgol yn golygu bod plant yn dod ar draws pobol na fydden nhw’n cwrdd fel arfer, naill ai ar wyliau neu glybiau neu ddigwyddiadau yma yng Nghymru,” meddai Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Rhianwen Stiff.

“Mae’r frech goch yn heintus dros ben i bobol sydd heb gael eu brechu. Rydym yn galw ar rieni yng Nghasnewydd, Torfaen ac ar draws Cymru i sicrhau bod eu plant â dau ddos o frechiad MMR.”

“Rydym hefyd eisiau atgoffa rhieni i ffonio o flaen llaw cyna mynd â phlant sydd â symptomau i’r feddygfa neu’r adran frys.”

Symptomau

Mae  symptomau’r frech goch yn cynnwys grwes uchel, peswch, trwyn yn rhedeg, llygaid coch (llid pilen y llygad), a brech goch nodweddiadol.

Gall tua 1 mewn 5 o blant â’r frech goch gael cymhlethdodau difrifol fel heintiau’r glust, llid yr ysgyfaint neu lid yr ymennydd.

Fel arfer, mae dos cyntaf o’r brechiad MMR yn cael ei roi i blant yn 12 mis oed, a’r ail yn dair oed a phedwar mis.

Dylai rhieni sy’n amau bod gan eu plant y frech goch, gysylltu â’u meddyg teulu neu ffonio Iechyd Cymru ar 0845 46 47 ar gyfer asesiad.